Breninesau Tŷ Hyll

Ers 10,000 o flynyddoedd bu gwenynwyr yn cadw gwenyn mewn cychod gwenyn er mwyn medru cynhyrchu cymaint o fêl â phosib. Bu cadw gwenyn yn bwysig iawn yn yr ardal hon, yn enwedig ers i’r brenin Edward I gymeradwyo sefydlu Ffair Fêl Conwy fel rhan o Siarter Frenhinol y dref dros saith canrif yn ôl. Caniataodd hyn i wenynwyr werthu mêl y tu mewn i furiau’r dref ar un diwrnod penodol bob blwyddyn, Medi 13eg.

Mae’n well gan wenynwyr weithio gyda gwenyn sydd yn hawdd i’w trin, rhai gweithgar a rhai sydd wedi addasu i’r hinsawdd leol. Fel arfer maent yn cael y gwenyn trwy’r Gymdeithas Cadw Gwenyn, er gellir denu rhai heidiau crwydrol trwy ddefnyddio cychod gwenyn fel abwyd.

Mae Tŷ Hyll, ble mae gwirfoddolwyr wedi creu gardd sy’n apelio at wenyn, yn leoliad delfrydol ar gyfer cadw gwenyn i gwrdd ag anghenion gwenynwyr lleol. Mae’n safle eithaf anghysbell felly maent yn llai tebygol o gael eu amharu gan fathau eraill o wenyn. Mae’r gwenyn yn Nhŷ Hyll yn perthyn yn agos iawn i’r is-rywogaeth Apis mellifera mellifera, y gwenyn tywyll Ewropeaidd.

Mae breninesau’n cael eu magu o nythfeydd safonol lleol drwy ddulliau trawsblannu ac yna eu cyflwyno i Dŷ Hyll mewn heidiau bychain. Bydd y breninesau gwyryfol yna y hedfan i baru gyda gwenyn gormes gwryw lleol a fagwyd.

Bydd breninesau iach sydd wedi paru yn cael eu rhoi i wenynwyr ar gyfer ail-frenhinesu, gan gyflwyno brenhines newydd ac ieuengach i’r nythfa bresennol. Neu, cyflwynir cnewyllyn o wenyn gweithio ar gyfer datblygu nythfa maint llawn.