Hanes

Mae’r bwthyn yma’n llawn o hanes, chwedl a dirgelwch.  Nid oes neb yn gwybod pwy â’i cododd na phryd, ond rydym yn gwybod hanes rhai o’r bobl fu’n byw yma yn y gorffennol …

Yr unigolyn cyntaf yr ydym yn gwybod amdano oedd y bugail lleol, John Roberts, ym 1900.  Oddi mewn i’r muriau cerrig trwchus roedd ei lety’n sylfaenol iawn: un ystafell fyw gyda lle tân mawr ar gyfer cynhesrwydd tŷ a choginio ac ystôl ar gyfer dringo i’r groglofft o dan y to.

Y bobl fu’n byw yma hwyaf oedd y teulu Riley, rhwng 1928 ac 1961.  Gwas stabl oedd Edward Riley yn nhŷ mawr The Towers a saif uwchben ein maes parcio.  Gwnaeth welliannau i Dy Hyll wrth osod ystafelloedd gwelyau ac ymolchi i fyny’r grisiau a pharlwr a chegin ar wahân i lawr y grisiau.  Arferai Edward a’i wraig Lilian groesawu ymwelwyr i’r tŷ am flynyddoedd, a’u diddanu â straeon a gyda’u cocatŵ, gan gychwyn traddodiad hir yr ydych fel ymwelydd bellach yn rhan ohoni eich hun!

Prynwyd Tŷ Hyll gan Gymdeithas Eryri ym 1988 yn dilyn cyfres o wahanol berchnogion a’i defnyddiodd fel ystafell de, siop hen bethau ac atyniad i ymwelwyr.  Mewn cyflwr gwael pan y’i prynwyd, fe’i hatgyweiriwyd gan lu o wirfoddolwyr gweithgar er mwyn darparu canolfan ymwelwyr fechan a swyddfa i Gymdeithas Eryri hyd 2010.  Mae’n parhau yng ngofal yr elusen fach hon a’i gwirfoddolwyr brwdfrydig.